Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Iau, 21 Tachwedd 2019

Amser: 09.20 - 12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5766


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Helen Mary Jones AC

Lynne Neagle AC

David Rees AC

Tystion:

Jackie Davies, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Cllr Huw David, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Rob Lightburn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Rob Smith, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Carmel Donovan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Alan Lawrie, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Alison Ryland, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Emily Dibdin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dr Anjula Mehta, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dr Mair Strinati, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Staff y Pwyllgor:

Sarah Beasley (Clerc)

Lowri Jones (Dirprwy Glerc)

Sarah Hatherley (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

2       Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

</AI2>

<AI3>

3       Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda byrddau iechyd lleol

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr byrddau iechyd lleol.

3.2 Cytunodd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i ddarparu manylion am;

Ø  i ba raddau y mae achosion o oedi a chanslo hebryngwyr o HMP Parc i apwyntiadau gofal iechyd allanol yn cael eu monitro yn erbyn safonau amseroedd aros cenedlaethol ar gyfer diagnosteg a thriniaeth gan y gwasanaethau iechyd;

Ø  yr oedi wrth drosglwyddo cleifion i'r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ac a yw HMP Parc yn cydymffurfio â chanllawiau trosglwyddo cyfredol; ac

Ø  unrhyw sicrwydd y gall y Bwrdd Iechyd ei roi i ddangos ei fod yn gweithio gyda'r gwasanaeth carchardai i sicrhau diogelwch staff gofal iechyd sy'n gweithio yng Ngharchar EM y Parc.

</AI3>

<AI4>

4       Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda byrddau iechyd lleol

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr byrddau iechyd lleol.

</AI4>

<AI5>

5       Papurau i’w nodi

</AI5>

<AI6>

5.1   Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI6>

<AI7>

5.2   Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch Cynllun Pensiynau’r GIG

5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI7>

<AI8>

5.3   Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru

5.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI8>

<AI9>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfodydd ar 27 Tachwedd (ar gyfer digwyddiad anffurfiol i randdeiliaid ar ddarparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion), ac ar 05 Rhagfyr 2019 (ar gyfer blaen-gynllunio rhaglen waith)

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i’r cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a’r cyfarfodydd ar 27 Tachwedd (ar gyfer digwyddiad anffurfiol i randdeiliaid ar ddarparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion), ac ar 5 Rhagfyr 2019 (ar gyfer blaen-gynllunio rhaglen waith).

</AI9>

<AI10>

7       Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Trafod y dystiolaeth

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI10>

<AI11>

8       Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â gofalwyr: Lansio'r adroddiad (lleoliad allanol)

8.1 Lansiodd y Pwyllgor ei adroddiad, 'Gofalu am ein dyfodol: Ymchwiliad i effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â gofalwyr’.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>